Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 4 Mawrth 2019

 

Amser:

12.30 - 14.10

 

 

 

Cofnodion:  AC(5)2019(2)

 

 

 

Aelodau’r Comisiwn:

 

Elin Jones AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Siân Gwenllian AC

David J Rowlands AC

Joyce Watson AC

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu

Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau

Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu

Delyth Lewis, Rheolydd Prosiect Senedd Ieuenctid

Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

 

 

 

 

<AI1>

1      Cyflwyniad

 

</AI1>

<AI2>

1.1  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan aelodau'r Comisiwn.

Roedd Eric Gregory wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod yn ôl y bwriad.

 

</AI2>

<AI3>

1.2  Datgan buddiannau

 

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

</AI3>

<AI4>

1.3  Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

</AI4>

<AI5>

2      Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid a'r Dathliadau Ugain Mlynedd

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid

 

Clywodd y Comisiynwyr am ddigwyddiad llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol.

Dywedodd y Llywydd y bu’n brofiad cynhyrfus ac roedd yn canmol pawb a fu ynghlwm wrth y digwyddiad a’r holl waith paratoi. 

Gellir gweld cyfarfod y Senedd Ieuenctid yma:http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/79aa22a2-0253-4a7e-badb-3baf239e5ff3?autostart=True

 

Trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol

 

Cafodd y Comisiynwyr wybod am y trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y dathliadau’n dechrau ar ddyddiad yr etholiad cyntaf, sef 6 Mai.

Cytunodd y Comisiynwyr fod hyn yn gyfle unigryw i feithrin cysylltiadau â phobl Cymru. Trafodwyd  cyfleoedd i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y gweithgareddau ac i roi cyfle iddynt arwain digwyddiadau yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, gan danlinellu ei bod yn arbennig o bwysig estyn allan i gymunedau difreintiedig nad ydynt yn ymwneud fawr ddim â’r broses wleidyddol.

Trafododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad  ymrwymo i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau, naill ei fel unigolion neu fel rhan o bwyllgorau, gan ddysgu o brofiadau Senedd@.

Cafwyd trafodaeth fanwl ynghylch y posibilrwydd o gynnal Cynulliad Dinasyddion a'r posibilrwydd y gallai hyn ysgogi pobl i feddwl sut y byddent yn gallu cyfrannu at waith y Cynulliad yn y dyfodol.  Roedd gwahanol fodelau ar gael, ac roedd y cynnig yn ffafrio gofyn i gwmni arbenigol recriwtio cyfranogwyr ar sail demograffeg gytbwys.

 

</AI5>

<AI6>

3      Capasiti adnoddau'r Cynulliad

 

Trafododd y Comisiynwyr y sefyllfa ddiweddaraf o ran adnoddau staffio. Yn benodol, cafwyd trafodaeth am y risg a oedd yn wynebu’r sefydliad os na fydd digon o staff i ddiwallu anghenion, a nodwyd yn flaenorol fel pwysau posibl, yn ymwneud â gwaith Brexit.

 

Cytunodd y Comisiwn i awdurdodi swyddogion i drafod a datblygu cynllun busnes ar gyfer cynyddu nifer y staff fel bod deg mwy na’r uchafswm presennol, a hynny drwy gadw o fewn y gyllideb bresennol. Byddai angen trafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn a'r Pwyllgor Cyllid.

 

</AI6>

<AI7>

4      Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cynulliad

 

Rhoddodd y Llywydd wybodaeth i'r Comisiynwyr am y datblygiadau diweddaraf ers cyflwyno Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr amserlen ar gyfer y Bil, gan gynnwys cwblhau cyfnod 1 cyn toriad yr haf a chwblhau’r cyfnod diwygio dros dymor yr hydref. Byddai'r Llywydd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau fel rhan o'u gwaith craffu deddfwriaethol - i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth ac i'r Pwyllgor Cyllid ar 4 Ebrill.

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr i fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi neu sy’n cael eu trafod mewn fforymau eraill mewn perthynas â’r Bil wrth i’r broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi.

 

</AI7>

<AI8>

5      Papurau i’w nodi:

 

</AI8>

<AI9>

5.1  Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

 

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf a gaiff ei chyflwyno’n rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.

 

</AI9>

<AI10>

6      Unrhyw Fater Arall

 

·         Isafswm cyflog - soniodd Joyce Watson am y setliad cyflog a gafodd staff y Comisiwn yn ddiweddar, gan ei groesawu fel cytundeb cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yn teimlo y dylai isafswm cyflog staff sy'n gweithio yma dan gontract gyfateb i’n hisafswm cyflog ni. Roedd y comisiynwyr yn gefnogol o ran egwyddor a gofynnwyd am ragor o wybodaeth er mwyn medru penderfynu ar y mater mewn cyfarfod arall.

 

·         Tribiwnlys - Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Dribiwnlys Cyflogaeth a oedd yn mynd rhagddo.

 

 

Yn ystod y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cwblhau eu Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau, a chytunwyd ar Ymatebion i argymhellion y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>